
Yn rhan greiddiol o’n sefydliad, fel rhan o’r Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol, byddwch yn cynrychioli ac yn cyfathrebu safbwyntiau’r holl blant a phobl ifanc anabl, i wella ac fel sail i’n gwaith i Drawsnewid Bywydau drwy Bŵer Chwaraeon!
Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc 16 - 24 oed, gydag a heb anabledd, i ymuno â’n Fforwm Ieuenctid newydd, arloesol a blaengar. Os ydych chi’n teimlo’n angerddol am chwaraeon cynhwysol ac eisiau cael eich grymuso i greu Cymru o chwaraeon cynhwysol lle mae pob plentyn a pherson ifanc anabl wedi gwirioni ar chwaraeon am oes, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Rydym yn rhagweld y bydd gan y Fforwm Ieuenctid DRI phrif faes cyfrifoldeb:
- Cynrychioli – cynrychioli barn plant a phobl ifanc anabl o wahanol gymunedau a gyda gwahanol namau i adlewyrchu a darparu ar gyfer eu hanghenion.
- Cynghori - cynghori ynghylch cyfeiriad ein gwaith a’i herio’n briodol er mwyn adnabod, blaenoriaethu a goresgyn rhwystrau sy’n atal ffyrdd o fyw egnïol os ydynt yn bodoli ar gyfer plant a phobl ifanc.
- Cyfathrebu – tynnu sylw, drwy gyfrwng fformatau hygyrch, at waith ChAC, ar y cyfryngau, ar gyfryngau cymdeithasol, mewn cynadleddau a digwyddiadau ac ati
I gael mwy o fanylion a gwybodaeth am sut i ymgeisio, ewch i: www.disabilitysportwales.com/youth-forum a/neu cysylltwch â Darren Wyn Jones ar:
E-bost: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
Ffôn Symudol: 07557 554272 @DSW_NEWS
#DSWYouthForum
Pecyn cais
Ffurflen gais - Cymraeg
Ffurflen gais - Saesneg